Page 11 - Spring_1_Welsh_Neat
P. 11

Sesiwn Fawr Gwylio Adar RSPB i Ysgolion
                       Prosiect gwyddoniaeth dinasyddion mwyaf y DU i ysgolion


         Trefnwch eich Sesiwn Fawr Gwylio Adar rhwng 5 Ionawr – 21 Chwefror 2022, gall hyn

                    ddigwydd unrhyw bryd yn ystod hanner cyntaf tymor y Gwanwyn.

              Mae Sesiwn Fawr Gwylio Adar RSPB i ysgolion yn rheswm ystyrlon dros fynd
         allan i diroedd yr ysgol. Mae’n darparu cyd-destun gwych ar gyfer data ac ystadegau

          yng ngwersi mathemateg neu hyd yn oed gadwyni bwyd ac ymaddasu yng ngwersi
          gwyddoniaeth. Mae llawer o ysgolion wedi canfod bod y prosiect yn tanio’r awydd i
             wneud newidiadau i diroedd yr ysgol sydd yn ei dro yn cefnogi bioamrywiaeth.



           Mae buddion niferus dysgu yn yr awyr agored yn hysbys i ni i gyd ac mae Sesiwn

         Fawr Gwylio Adar i ysgolion yn ffordd wych o ddysgu drwy’r natur sydd ar diroedd yr
                                                         ysgol.



















































                            Gallwch archebu pecynnau dwyieithog rhad ac am ddim tan 30 Ionawr

                                                                    2022.
                                   Cael eich pecyn am ddim ar www.rspb.org.uk/schoolswatch
                                              neu cysylltwch ag education@rspb.org.uk
   6   7   8   9   10   11   12   13   14   15   16