Page 10 - Spring_1_Welsh_Neat
P. 10
Blwyddyn Fioamrywiaeth FEE
Y Foundation for Environmental Education (FEE) yw Sefydliad Addysg
Amgylcheddol Mwyaf y byd gyda dros 100 o sefydliadau mewn dros 79 o
wledydd.
Mae rhaglenni FEE yn defnyddio dull ar sail batrysiadau i rymuso pobl
i greu byd sy’n fwy ymwybodol o’r amgylchedd. Nhw yw’r sefydliad
ymbarél a ddatblygodd y rhaglen Eco-Sgolion nôl yn 1994.
Eleni mae FEE wedi lansio Ymgyrch Bioamrywiaeth, sy’n llawn gweithgareddau sy’n
pwysleisio pwysigrwydd gwarchod natur fel rhan o Ddegawd y Cenhedloedd Unedig ar
Adfer Ecosystemau.
Gwahoddiad i’ch ysgol!
Beth am roi cynnig ar y Cwis
Bioamrywiaeth Ar-lein? Mae ar gael
mewn nifer o ieithoedd gan gynnwys
Cymraeg a Saesneg!
Beth am herio eich ffrindiau, plant
y dosbarth, disgyblion neu’ch
cydweithwyr i brofi eich gwybodaeth am bob peth byw. Rydym yn gobeithio y bydd
y cwis hwn yn cynyddu eich ymwybyddiaeth o
fioamrywiaeth a byddwch yn dysgu rhai ffeithiau
newydd hefyd! Cliciwch yma am y
cwis
Ydych chi neu’ch hysgol wedi helpu bywyd gwyllt, wedi dysgu am fioamrywiaeth ar
raddfa fyd-eang neu wedi cysylltu â natur drwy ddysgu yn yr awyr agored yn nhiroedd
eich ysgol?
Beth am rannu eich lluniau gorau ar y cyfryngau cymdeithasol a thagio @
EcoSgolionCymru a #GenerationRestoration?