Page 39 - Diwrnod Gweithredu
P. 39

7.3




          Beth allwn ni ei wneud?





                              Syniadau




                              Cyflwynwch eich Diwrnod Gweithredu gyda gwasanaeth Ynni yn cyflwyno gwybodaeth ar y defnydd o ynni a hybu arbed ynni - defnyddiwch
                              ffigurau go iawn a gasglwyd o’r archwiliad ynni.


                              Cynhaliwch ddiwrnod ‘diffodd’ neu ‘ynni isel’. Penodwch ‘sgwad ynni’ i fod yn gyfrifol am bethau fel cau drysau allanol yn ystod amser egwyl a
                              diffodd goleuadau a chyfarpar pan na fyddant yn cael eu defnyddio.


                              Cofnodwch ddefnydd yr ysgol o ynni ar ddiwrnod arferol ac yna ar y diwrnod ‘ynni isel’ a chymharwch y canlyniadau.  Gallwch wneud y defnydd
                              o ynni yn weladwy trwy brynu eco-fesurydd neu arddangos gwybodaeth ar hysbysfwrdd.


                              Gofynnwch i’r disgyblion ddylunio a chreu posteri i’w gosod ger switshis trydan er mwyn hybu arbed ynni. Gellid defnyddio system goleuadau
                              traffig ar switshis golau.  Sticeri coch ar y rhai nad oes byth angen eu troi ymlaen mewn gwirionedd, sticeri ambr ar y rhai i’w troi ymlaen os yw’n
                              dywyll a sticeri gwyrdd ar y rhai y gellir eu troi ymlaen yn rheolaidd.


                              Gellid cymryd darlleniadau tymheredd.  Dylai ystafell ddosbarth fod yn 18ºC. Os yw’n rhy gynnes, ystyriwch droi’r rheiddiaduron i lawr yn
                              hytrach nag agor y ffenestri. Addaswch y thermostat a’r clociau amser ar wresogyddion i lefelau mwy effeithlon.


                              Archwiliwch newid hinsawdd a’r hyn y mae’n ei olygu i’n byd.  Esboniwch y cysyniad trwy lapio disgybl mewn blancedi i ddangos bod CO2 yn
                              bwysig i’r awyrgylch ond bod gormod yr un peth â chael gormod o flancedi ar ddiwrnod poeth. Trafodwch yr effaith y mae hyn yn ei gael ar ein
                              planed. Beth allem ni ei wneud i greu llai o nwyon t¿ gwydr? Canfyddwch fwy trwy wylio’r fideo yma - Climate Science in a Nutshell


                              Mae ynni yn gysylltiedig â newid hinsawdd hefyd. Mae popeth yr ydym yn ei ddefnyddio neu ei fwyta wedi defnyddio ynni i’w wneud neu ei
                              gynhyrchu. Weithiau rydym yn anghofio am yr ynni sydd wedi ei sefydlu mewn eitemau bob dydd. Archwiliwch y diwydiant tecstilau. Mae’n rhoi
                              cyfrif am 20-25% o’r holl allyriadau nwyon t¿ gwydr - mae hyn yn fwy na’r holl deithiau awyren a llongau morol gyda’i gilydd!!


                              Mae hyn yn ddiddorol! Gwyliwch yr adroddiad hwn gan y BBC i ganfod sut mae baw ci yn pweru golau stryd!
   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44