Page 10 - Business in Focus Annual Report 2017 Welsh.indd
P. 10

AD
          10
          10                           ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016-2017RODDIAD BLYNYDDOL 2016-2017                                                                      BUSNES MEWN FFOCWS                                             11









          DACEY LTD


                                                                                                                                 Sefydlwyd Dacey Cyf yn 1972, ac mae’n           Fe wnaeth Busnes Cymru a Llywodraeth
                                                                                                                                 dal yn fusnes teuluol sy’n cynhyrchu dewis      Cymru gydweithio â Dacey i gefnogi’r
                                                                                                                                 llawn o gynhyrchion orthoteg pwrpasol yn        cysyniad a chanfod dulliau a symleiddio’r
                                                                                                                                 eu cyfl eusterau yng Nghaerdydd a Merthyr.      holl broses weithgynhyrchu. O ganlyniad,
                                                                                                                                 Mae eu cynhyrchion yn cynnwys esgidiau          fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddarparu
                                                                                                                                 pwrpasol, llawfeddygol, modwlar a safonol,      cymorth ariannol o’i Chronfa Arloesi
                                                                                                                                 mewnosodiadau orthotig gweithredol,             i awtomeiddio’r broses torri lledr.
                                                                                                                                 mewnosodiadau plastig a metel, a phob           Yn ychwanegol, fe wnaeth un o Reolwyr
                                                                                                                                 mathau o gynheiliaid ffabrig. Ar hyn o bryd,    Perthnasoedd Busnes Cymru, Brian Roberts,
                                                                                                                                 cyfl enwir y rhain i ysbytai’r GIG ledled y DU   gynorthwyo Bob i ffurfi o eu cynlluniau
                                                                                                                                 ac i ysbytai yn Iwerddon a Denmarc.             busnes ac ariannol fel rhan o gais am grant
                                                                                                                                 Caiff bob esgid ei theilwra’n unigol yn unol ag   Twf a Ffyniant. Cafodd y busnes £50,000
                                                                                                                                 anghenion a mesuriadau’r claf, sy’n golygu      tuag at gost y sganwyr, meddalwedd,
                                                                                                                                 creu ‘pren troed’ 3D ar sail mesuriadau         argraffwyr 3D a’r peiriant melino terfynol.
                                                                                                                                 traed y claf, a defnyddir hynny i greu          Fe wnaeth Brian gyfeirio Bob at un o
                                                                                                                                 esgidiau pwrpasol. Mae’r broses gyfl awn yn     Gynghorwyr Tendro Busnes Cymru i gael
                                                                                                                                 cynnwys: creu’r prennau, torri a phwytho’r      cymorth â’r cynlluniau ehangu pellach,
                                                                                                                                 lledrau uchaf, gosod y gwadnau a gosod          yn cynnwys cyfl wyno tendrau i nifer o
                                                                                                                                 mewnosodiadau orthotig os bydd angen            Ymddiriedolaethau’r GIG. Mae Cynghorydd
                                                                                                                                 hynny. Ar ôl eu cwblhau, rhoddir yr esgidiau    Effeithlonrwydd Adnoddau hefyd wedi
                                                                                                                                 i’r clinigau yn yr ysbytai fel gall cleifi on eu   bod yn cydweithio â’r busnes, yn darparu
                                                                                                                                 profi , ac os bydd angen hynny, gwneir rhagor   cymorth i gyrchu cyllid yr Ymddiriedolaeth
                                                                                                                                 o waith i sicrhau eu bod yn ffi tio’n wych.
                                                                                                                                                                                 Carbon ar gyfer y safl e newydd arfaethedig.
                                                                                                                                 Dyma’r unig wneuthurwr o’r math hwn yng         O ganlyniad i’r cyngor ariannol a’r cyngor
                                                                                                                                 Nghymru yn y diwydiant orthoteg, ac mae’n       busnes, mae Dacey wedi llwyddo i wireddu
                                                                                                                                 cyfl ogi dros 100 o bobl ar hyn o bryd.
                                                                                                                                                                                 nifer o fanteision yn syth, yn cynnwys
                                                                                                                                 Roedd y busnes yn defnyddio dulliau             mesuriadau cywirach, sy’n golygu llai o
                                                                                                                                 gweithgynhyrchu traddodiadol iawn oedd          ail-wneud a llai o ymweliadau gan gleifi on
                                                                                                                                 yn llafurddwys ac yn gofyn am lawer o amser,    llai o amser i gwblhau cynhyrchion, a chael
                                                                                                                                 ac yn creu’r prennau esgidiau â llaw gan        gwared ar y cyfyngiadau ar gynhyrchu sy’n
                                                                                                                                 ddilyn manyleb neu ddefnyddio castin, felly     golygu rhagor o gynhyrchiant a mwy o
                                                                                                                                 fe wnaeth Bob ofyn am gymorth gan               botensial i allforio.
                                                                                                                                 wasanaeth Busnes Cymru Llywodraethu             Maent eisoes wedi creu 10 o swyddi,
                                                                                                                                 Cymru, oherwydd roedd yn ystyried               a chaiff 3 technegydd arall eu
                                                                                                                                 ymgorffori systemau CAD CAM newydd i greu       recriwtio erbyn diwedd y fl wyddyn.
                                                                                                                                 prennau esgidiau a thechnegau argraffu 3D yn
          ASTUDIAETH ACHOS                                                                                                       y broses weithgynhyrchu. Yn sgil cyfyngiadau    www.dacey.co.uk
                                                                                                                                 ar allu cynhyrchu, fe wnaeth Bob hefyd ganfod
          BUSNES CYMRU                                                                                                           adeilad newydd ar gyfer y ffatri, a byddai
                                                                                                                                 hynny’n cynyddu cynhyrchu ymhellach ac
                                                                                                                                 yn uchafu arbedion effeithlonrwydd.




          Busnes Cymru yw Gwasanaeth Entrepreneuriaeth Llywodraeth Cymru. Caiff ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
   5   6   7   8   9   10   11   12   13   14   15