Page 15 - Business in Focus Annual Report 2017 Welsh.indd
P. 15

AD
 14
 14  ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016-2017RODDIAD BLYNYDDOL 2016-2017  BUSNES MEWN FFOCWS                            15









 GET WONKY


          Mae dau entrepreneur ifanc yng Nghaerdydd       Fe wnaeth Maciek a Karina fynychu
          wedi sefydlu busnes sudd naturiol i fynd i’r    digwyddiad Bw ˆ tcamp i Fusnes Syniadau
          afael â’r hyn maent yn ei ystyried yn broblem   Mawr Cymru yn Nhachwedd 2016. Yno,
          gwastraff gynyddol ac aneffeithlonrwydd o ran   fe wnaethant hwy a 50 o entrepreneuriaid
          cynhyrchu bwyd a diod.                          newydd ifanc dreulio penwythnos yn

          Mae Get Wonky yn cynhyrchu sawl math o          cyfranogi mewn gweithdai ac yn dysgu
          sudd sydd wedi’u gwneud o ffrwythau wedi’u      gan ddelfrydau ymddwyn Syniadau Mawr
          casglu â llaw yn unig, beth bynnag fo’u siâp    Cymru - entrepreneuriaid llwyddiannus o
          neu eu maint, ac mae’n cael cymorth gan         Gymru sydd bellach yn cynorthwyo rhaglen
          raglen Syniadau Mawrth Cymru Llywodraeth        entrepreneuriaeth yr ifanc Llywodraeth
          Cymru. Mae pob sudd yn 100% naturiol,           Cymru i feithrin y genhedlaeth nesaf o
          nid ydynt yn cynnwys unrhyw glwten na           ddoniau masnachol.
          phowdrau, olewau, asidau na GMOs ychwaith.      Dywedodd Maciek: “Roedd y Bw ˆ tcamp
                                                          yn hynod o werthfawr i ni. Fe wnaethom
          Fe waeth sylfaenwyr y cwmni, Maciek
          Kacprzyk, 24, a Karina Sudenyte, 21, sy’n       ni gyfranogi mewn cystadleuaeth sesiwn
          hanu o Wlad Pwyl a Lithwania yn eu trefn,       sylw, ac fe wnaeth hynny roi llawer iawn
          fynychu Prifysgol De Cymru, ac maent            o hyder i ni yn ein syniad busnes ac fe
          yn dweud fod diffyg ailgylchu bwyd yn           wnaethom ni gwrdd ag arbenigwyr go iawn
          broblem fawr ledled y byd. Yn eu tyb hwy,       o fyd cyfryngau cymdeithasol a marchnata a
          mae digon o gwsmeriaid yn malio digon am        ddywedodd wrthym ni sut i gael ein syniadau
          wastraff bwyd i gyrchu eu bwyd a’u diod o       ar y map. Byddwn yn cadw mewn cysylltiad
          ffynhonnell gynaliadwy.                         â’n holl fentoriaid a’n cyd-entrepreneuriaid
                                                          yn dilyn y penwythnos.”
          Dywedodd Maciek, sydd wedi graddio yn y
          gyfraith yn ddiweddar: “Deilliodd Get Wonky     Mae’r ddau yn bwriadu arallgyfeirio i faes
          o awydd i fynd i’r afael â’r broblem enfawr o   adwerthu, ac maent yn obeithiol iawn o weld
          wastraff bwyd yn Ewrop. Ailgylchu gwastraff     eu cynhyrchion mewn archfarchnadoedd
          yw un o heriau mwyaf ein hoes, ac rydym ni’n    megis Waitrose a Selfridges. Maent hefyd yn
          awyddus i newid y sefyllfa honno.”              bwriadu dod yn ddarparwr cyntaf diodydd
                                                          hollol naturiol, ailgylchedig a charbon niwtral
          Ychwanegodd Karina, sy’n fyfyrwraig             Cymru. Ar hyn o bryd, mae’r cwpanau
          Rheolaeth ar lefel Cydymaith: “Yn aml iawn,     a’r cynhwysyddion a ddefnyddir i ddal y
          ni all perllannau ffrwythau werthu eu cynnyrch   sudd wedi’i gwneud o 50% o ddeunyddiau
          os na fydd maint neu siâp y ffrwythau yn        ailgylchedig o leiaf, ond maent yn ceisio
          iawn. Rydym yn talu hyd at 70% o bris y         buddsoddiad i sicrhau fod y cynwysyddion
          farchnad am gynnyrch a fyddai’n cael ei         wedi’u hailbrosesu’n llawn yn
          wastraffu fel arall. Yn sgil hynny, rydym yn    y dyfodol agos.
          helpu i leihau gwastraff ffrwythau ac yn
 ASTUDIAETH ACHOS   helpu tyfwyr.”                        www.getwonky.co


 SYNIADAU MAWR CYMRU








 Mae Syniadau Mawr Cymru yn rhan o Wasanaeth Entrepreneuriaeth yr Ifanc Llywodraeth Cymru. Caiff ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu
 Rhanbarthol Ewrop, ac mae’n cynorthwyo pobl ifanc 5-25 mlwydd oed i ddatblygu sgiliau entrepreneuraidd.
   10   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20