Page 16 - Business in Focus Annual Report 2017 Welsh.indd
P. 16

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016-2017RODDIAD BLYNYDDOL 2016-2017
          16
          16                           AD                                                                                                                            BUSNES MEWN FFOCWS                                             17









          DOZE


                                                                                                                                 Mae entrepreneur ifanc o Donyrefail wedi        Felly, ni chaiff yr ap ei sbarduno nes bydd yn
                                                                                                                                 datblygu ap chwyldroadol newydd ar              cyrraedd gorsaf, ac os bydd yr orsaf yn un
                                                                                                                                 gyfer defnyddwyr y London Underground           byddwch chi wedi’i phennu fel cyrchfan, bydd
                                                                                                                                 sy’n tueddu i ddisgyn i gysgu yn ystod eu       larwm yn canu yn eich hysbysu i adael y trên.
                                                                                                                                 cymudo dyddiol.                                 Yn ôl Dafydd: “Llwyddais i fynychu digwyddiad

                                                                                                                                 Mae ‘Doze’, sydd ag enw addas, yn gweithio      Bw ˆ tcamp Syniadau Mawr Cymru ym Margam,
                                                                                                                                 trwy ddeffro defnyddwyr sydd wedi disgyn        ble cafodd oddeutu 50 o entrepreneuriaid
                                                                                                                                 i gysgu cyn cyrraedd eu cyrchfan benodol.       ifanc benwythnos o gyngor a chymorth
                                                                                                                                 Mae Doze yn defnyddio llecynnau WiFi            ynghylch cychwyn busnes. Roedd yn neilltuol
                                                                                                                                 presennol gorsafoedd y Tiwb i ganfod ei         o wych clywed sgwrs gan Irfon Watkins o
                                                                                                                                 leoliad tanddaearol yn gywir.                   Coull, sy’n enghraifft wych o Gymro sy’n
                                                                                                                                                                                 arloeswr go iawn ym maes technoleg.
                                                                                                                                 Fe wnaeth Dafydd Jones ddatblygu ei ap
                                                                                                                                 am fl wyddyn gyfan tra’r oedd yn astudio        Gadewais y penwythnos â syniad llawer gwell
                                                                                                                                 am ei arholiadau Safon Uwch yng Ngholeg         o’r amser y byddai ei angen arnaf i lansio
                                                                                                                                 Merthyr. Wrth wneud hynny, mae wedi             Doze a’i wneud yn llwyddiant.”
                                                                                                                                 cael cymorth busnes i gynllunio ei ap           getdoze.co
                                                                                                                                 cyntaf fan dîm Syniadau Mawr Cymru,
                                                                                                                                 rhaglen entrepreneuriaeth i’r ifanc
                                                                                                                                 Llywodraeth Cymru.

                                                                                                                                 Dywed Dafydd mai stori gan ei frawd mawr a
                                                                                                                                 ysbrydolodd Doze: “Ychydig ar ôl i fy mrawd
                                                                                                                                 symud i Lundain, disgynnodd i gysgu ar drên
                                                                                                                                 olaf y noson a chyrhaeddodd ben draw y lein.
                                                                                                                                 I gyrraedd adref, bu’n rhaid iddo dalu ffortiwn
                                                                                                                                 am dacsi. Pan glywais i hynny, meddyliais
                                                                                                                                 od ateb gwell yn sicr o fod ar gael.”
                                                                                                                                 Mae mynediad i rwydweithiau yn gyfyngedig
                                                                                                                                 iawn o fewn rhwydwaith London Underground,
                                                                                                                                 felly ni allai ap seiliedig ar leoliadau Dafydd
                                                                                                                                 weithio gan ddefnyddio cysylltedd GPS arferol,
                                                                                                                                 ac yn lle hynny, mae’n gwneud defnydd
                                                                                                                                 penodol o lecynnau WiFi presennol a leolir
                                                                                                                                 ym mhob un o orsafoedd y Tiwb.




          ASTUDIAETH ACHOS


          SYNIADAU MAWR CYMRU








          Mae Syniadau Mawr Cymru yn rhan o Wasanaeth Entrepreneuriaeth yr Ifanc Llywodraeth Cymru. Caiff ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu
          Rhanbarthol Ewrop, ac mae’n cynorthwyo pobl ifanc 5-25 mlwydd oed i ddatblygu sgiliau entrepreneuraidd.
   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21