Page 6 - Welsh CCSE in ALN and AP Settings Report
P. 6
Oherwydd anghenion y dysgwyr, nid yw'r cam dilyniant y maent yn gweithio arno fel
arfer yn cydfynd â'u hoedran. Mae'r mwyafrif o'r lleoliadau a drafodir yma yn dilyn y
Cwricwlwm i Gymru; fodd bynnag, mae rhai lleoliadau yn dilyn y Llwybrau Datblygiadol,
a'r Cwricwlwm Gwasanaeth Ieuenctid.
Mae'r adroddiad hwn yn trafod tirwedd bresennol ANHaCh mewn lleoliadau ADY a
lleoliadau darpariaeth amgen yng Nghymru, ac yn nodi lle mae bylchau yn bodoli, ac yn
rhoi awgrymiadau ar gyfer ANHaCh mwy cynhwysol a chyson yng Nghymru. Trwy fynd i'r
afael â'r bylchau a nodwyd, bydd yn bosibl cael ANHaCh gwirioneddol gynhwysol. Bydd
hyn yn sbarduno newid ymddygiad parhaus gan bobl ifanc ym mhob lleoliad, sy'n
hanfodol os yw Cymru am gyflawni ei huchelgeisiau hinsawdd o allyriadau sero net
erbyn 2050.
“I'm dysgwyr ADY... rydych chi’n addasu’r
addysgu, rydych chi’n dysgu iddynt fod yn
garedig i'n planed a bod yn garedig â lle
rydyn ni'n byw... mae'n ymwneud ag
ymgorffori ymddygiadau... ... mae’n ymwneud
â newid yr ymddygiadau hynny o oedran
ifanc, ac yna maen nhw'n parhau â’r daith".
6

