Page 7 - Welsh CCSE in ALN and AP Settings Report
P. 7
2. BWLCH ADNODDAU CRITIGOL
Mae angen i leoliadau ADY gael adnoddau ANHaCh sy'n mynd i'r afael yn benodol ag
anghenion eu dysgwyr. Oherwydd y diffyg adnoddau addas sydd ar gael a gofynion y
cwricwlwm newydd, mae athrawon o dan bwysau cynyddol i greu adnoddau eu hunain.
Fodd bynnag, mae athrawon wedi adrodd bod ganddynt ddiffyg gwybodaeth am newid
hinsawdd a chynaliadwyedd, yn ogystal â diffyg amser paratoi. Mae'r diffyg hyder a'r gallu
hwn yn arwain at athrawon yn rhoi'r gorau i syniadau ar gyfer gweithgareddau y maent yn
meddwl a fyddai o fudd i'w dysgwyr.
Hyd yn oed os gall athrawon ddod o hyd i
adnodd eu hunain, neu ei ddatblygu, efallai na
fyddant yn gallu ei ddefnyddio gyda llawer o " Roeddwn i'n ceisio darganfod sut y
ddysgwyr gwahanol gan fod pob carfan o byddwn i'n ei wneud [gwneud
fyfyrwyr mewn lleoliadau ADY yn amrywio'n fawr gweithgaredd ar byllau glo] ...
Doeddwn i ddim wedi ei wneud yn y
yn eu gallu corfforol a meddyliol. Gall y cylch hwn pendraw; nid oedd gweithgareddau
o beidio â theimlo'n barod i addysgu ANHaCh addas ar gael."
effeithiol arwain at deimladau o euogrwydd, y
risg o athrawon yn llosgi allan a blinder (gweler
Adran 7 "Risg o Ddiffyg Gweithredu").
Daw pwysau pellach ar baratoi gwersi o'r gofyniad i wahaniaethu o fewn carfan o fyfyrwyr,
gan y bydd gan ddysgwyr ystod o anghenion meddyliol a chorfforol hyd yn oed o fewn un
garfan.
Ar hyn o bryd mae datgysylltiad mewn adnoddau ADY sy'n mynd i'r afael ag oedran
dysgwyr a'r cam dilyniant y maent yn gweithio arno. Mae adnoddau naill ai wedi'u hanelu
at lefelau rhy uchel i ddysgwyr o'i gymharu â'u hoedran, neu maent ar bwnc nad yw'n
berthnasol nac yn ddiddorol iddynt, ond sydd ar eu lefel academaidd. Felly, mae angen
addasu adnoddau i gwrdd â'r oedran a'r cam dilyniant (neu gam cyn dilyniant a llwybrau
ar gyfer lefel dysgu) y mae'r dysgwyr ynddo. Mae athrawon ADY yn treulio llawer o amser yn
cuddio'r lefel academaidd y mae eu dysgwyr yn gweithio arni drwy dorri neu guddio
unrhyw labeli ar yr adnoddau gwreiddiol. Pe na bai staff addysgu yn gwneud hyn, gallai eu
dysgwyr deimlo’n flin a throi’n anreoleiddiedig yn emosiynol gan arwain at ddiffyg gwaith.
Mae angen adnoddau ar athrawon nad oes oedran wedi’u neilltuo iddynt, ond yn hytrach,
gallu, gan gael gwared ar y lletchwithdod o blentyn 16 oed yn gweithio ar lefel plentyn 5 oed
er enghraifft.
Mae diffyg adnoddau a chefnogaeth arbennig ar gyfer
lleoliadau ADY gyda dysgwyr oedran cynradd. Ar hyn o
bryd, mae enghreifftiau o ANHaCh a rennir gydag
athrawon cynradd blynyddoedd cynnar yn seiliedig ar
arfer gorau i ddysgwyr sy'n gweithio ar gamau dilyniant
uwch. Mae athrawon dysgwyr ADY oedran cynradd yn
cael eu rhwystro rhag ymgysylltu ag AHNaCh a'r rhaglen
Eco-Sgolion oherwydd eu bod yn gweld nad yw eu
dysgwyr yn gallu deall y cysyniadau o newid hinsawdd a
chynaliadwyedd. Bydd darparu adnoddau wedi'u teilwra
ar gyfer cam cyn dilyniant ADY a llwybrau dysgu yn rhoi
cyfle i athrawon ymgysylltu â dysgwyr oedran cynradd 7
gydag ANHaCH. 7

