Page 11 - Welsh CCSE in ALN and AP Settings Report
P. 11
"Yn aml rydym yn cael yr hyfforddiant prif ffrwd a dwi'n meddwl
'mae hynny'n syniad da, ond nid yw fy nisgyblion yn gallu
gwneud hynny'. Felly es i i’r hyfforddiant, ond roedd yn sesiwn lle
roeddech chi’n rhoi mygydau dros lygaid y plant plant, yna
roedd yn rhaid iddyn nhw gerdded ac roeddwn i'n meddwl na
fyddai hynny’n bosibl gyda fy mhlant... Roeddwn i'n ceisio
meddwl pa weithgareddau, pa syniadau newydd ar gyfer dysgu
yn yr awyr agored y gallaf eu cymryd o hyn ac i fod yn onest, nid
oeddwn yn gallu eu defnyddio oherwydd roedd yna gerrig hefyd,
ac mae fy nisgyblion yn taflu pethau, nid yw’n bosibl i mi roi
cerrig iddyn nhw ... felly des i o’r hyfforddiant yn drist, des i nôl o'r
sesiwn honno heb unrhyw syniadau newydd."
Mae athrawon eisiau mynychu hyfforddiant ANHaCh sy'n ymarferol, sy’n darparu
adnoddau ac sy’n gwella eu gwybodaeth am newid hinsawdd, ymarfer cynaliadwy ac
addysg awyr agored. Mae athrawon hefyd eisiau hyfforddiant ANHaCh i hwyluso
cydweithredu â lleoliadau ADY er mwyn rhannu profiadau ac adnoddau. Er bod Eco-
Ysgolion ar hyn o bryd yn darparu cyfarfod ar-lein blynyddol ar gyfer athrawon ADY, mae’r
cyflwynwyr fel arfer yn athrawon sy’n addysgu disgyblion oedran uwchradd, gan adael
athrawon oedran cynradd yn teimlo eu bod wedi'u heithrio. Felly, mae angen i hyfforddiant
ANHaCh ddarparu enghreifftiau ar gyfer pob oedran a cham gan greu amgylchedd mwy
cynhwysol i athrawon.
3.1 ARGYMHELLION AR GYFER HYFFORDDIANT STAFF
Hwyluso’r cyfleoedd i greu hyfforddiant cryno, cynhwysol: Sicrhau bod hyfforddiant
ANHaCh ar gyfer athrawon a chynorthwywyr addysgu ar gael mewn lleoliadau ADY. Dylai
hyfforddiant adeiladu gwybodaeth gyfredol am newid hinsawdd a chynaliadwyedd a
darparu strategaethau addysgu ymarferol ac adnoddau hygyrch.
Adnoddau ymarferol a chyfleoedd i gydweithio â lleoliadau ADY eraill: Ymgorffori
datblygiad ymarferol o weithgareddau addasadwy, parod i'w defnyddio a meithrin
rhwydweithiau ar gyfer rhannu syniadau ac arferion gorau ar draws lleoliadau ADY.
Cyflwyniad cyd-destunol, trawsgwricwlaidd: Teilwra hyfforddiant i gwrdd â phob lefel
dysgwr ADY gan ddangos sut i addasu ANHaCh ar gyfer anghenion cyfathrebu a
gwybyddol ac integreiddio dysgu ar draws Meysydd Profiad Dysgu MPaD).
Enghreifftiau o bob rhan o'r ystod oedran: Sicrhau bod hyfforddiant yn cynnwys
enghreifftiau o ddarpariaeth ANHaCh ar gyfer cam cyn dilyniant a llwybrau ar gyfer dysgu
yn ogystal â dysgwyr â gallu uwch.
Mae'r argymhellion hyn yn mynd i'r afael â'r diffygion presennol mewn hyfforddiant
ANHaCh ar gyfer lleoliadau ADY trwy sicrhau bod pob athro a chynorthwywyr dysgu yn
derbyn hyfforddiant effeithlon, ymarferol a chydweithredol sydd wedi'i deilwra i'w
cyfyngiadau amser ac anghenion eu dysgwyr. Bydd hyn yn rhoi hwb i hyder i addysgu
ANHaCh, gan wella mynediad at adnoddau, a gwella ymgysylltiad dysgwyr wrth
ddarparu'r Cwricwlwm i Gymru.
11

