Page 16 - Welsh CCSE in ALN and AP Settings Report
P. 16
Mae teithiau ysgol yn arbennig o fanteisiol i ddysgwyr
ADY: Mae dysgwyr ADY yn dysgu trwy wneud ac felly
maent yn fwy tebygol o gymryd rhan a dysgu y tu allan i'r
ystafell ddosbarth. Mae dysgu seiliedig ar le yn hanfodol i
ddysgwyr ADY gan nad oes ganddynt y gallu i fynd i
wahanol leoedd y tu allan i oriau ysgol oherwydd costau
neu broblemau symudedd.
Mae athrawon yn y lleoliadau hyn yn gweld teithiau yn
angenrheidiol i'w dysgwyr, ond nid ydynt bob amser yn
gallu eu cynnal oherwydd cyfyngiadau ariannol, y gwaith
papur helaeth a’r drefniadaeth sydd eu hangen ar gyfer
lleoliadau ADY.
“Mae'r Gerddi Botaneg yn gwneud pethau gwych, mae'r gwlybtiroedd yn
gwneud llawer o bethau cŵl, gan edrych ar wahanol gynefinoedd a sut
mae pethau'n newid. Felly mae llwyth o lefydd sy'n gwneud pethau, ond
dim ond mae angen cael rhestr a gwybod a ydyn nhw'n cymryd
disgyblion ADY ac yna a ydyn nhw eisiau iddynt ddod i’r safle oherwydd
ein bod ni’n treulio llawer o amser yn siarad â nhw am y ffaith, yn amlwg,
bod gan bob un gynllun dysgu unigol, felly yn dechnegol mae'r holl staff
sy'n mynd gyda nhw yn ofalwyr. Felly fel arfer rydych chi'n cael un aelod o
staff ar gyfer 11 disgybl sy'n lefel arferol, tra bod gen i naw aelod o staff ar
gyfer 14 disgybl. a fel arfer mae angen i mi fynd â nhw i gyd... Felly os
ydym yn gwybod eu bod nhw'n wych gyda nhw [dysgwyr ALN] eisoes,
mae hynny'n wych, oherwydd rydych chi'n gwybod yn iawn fod
hynny'n daith hawdd i'w chynllunio".
Gall dod o hyd i le addas ar gyfer taith fod yn anodd oherwydd bod angen mynd â mwy
o staff nag y mae ysgolion prif ffrwd yn gorfod eu gwneud Gan fod teithiau yn llawer mwy
heriol i'w trefnu a'u rhedeg yn ddiogel o'i gymharu ag ysgol brif ffrwd, maent yn llai
tebygol o ddigwydd. Gallai Rhwydwaith Addysgwyr ADY ar gyfer ANHaCh weithredu fel
lliniarydd ar gyfer y mater hwn, gallai lleoliadau ADY rannu diweddariadau rheolaidd ar
ble maen nhw wedi bod ar deithiau a oedd yn groesawgar ac yn ymgysylltu â'u dysgwyr,
yn hytrach nag athrawon yn gorfod poeni a threulio gormod o amser yn ymchwilioac
asesu lleoedd addas.
Mae'r adran hon wedi dangos manteision ANHaCh i ddysgwyr ADY gan adeiladu eu
hyder, eu synnwyr o bwrpas a'u sgiliau bywyd. Fodd bynnag, er gwaethaf effaith gref,
mae addysg awyr agored a mentrau cynaliadwyedd yn parhau i gael eu tan-
ddefnyddio. Rydym yn argymell bod mwy o gefnogaeth, hyfforddiant ac adnoddau yn
cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod pob lleoliad ADY yn gallu ymgorffori ANHaCh yn llawn
ac yn gyson. Mae cydweithio rhwng ysgolion a lleoliadau teithiau ysgol allanol yn
hanfodol er mwyn darparu cyfle rhwng dysgwyr prif ffrwd ac ADY.
16

