Page 18 - Welsh CCSE in ALN and AP Settings Report
P. 18

Serch  hynny,  mae'r  Prosiect  Arloesi  wedi  cyflwyno  ystod  eang  o  weithgareddau  sy'n
        ymwybodol o'r amgylchedd a chymdeithasol sy'n cyfrannu'n gadarnhaol at ddatblygiad
        dysgwyr  a'u  cymunedau.  Mae'r  rhain  yn  cynnwys  ffair  ‘ail-law’  lle’r  oedd  eitemau  a
        roddwyd  yn  cael  eu  dosbarthu  am  ddim  i  grwpiau  difreintiedig,  casglu  sbwriel
        cymunedol,  a  phrosiect  celf  yn  creu  blancedi  o  becynnau  creision  i  gefnogi  pobl
        ddigartref.

        Mae gweithgareddau ymarferol, dan arweiniad dysgwyr fel y rhain yn ennyn diddordeb
        pobl ifanc yn ystyrlon, gan eu galluogi i ddatblygu sgiliau ymarferol tra hefyd yn dysgu
        am  effaith  amgylcheddol  a  chymdeithasol.  Gall  y  profiadau  hyn  wella  cyfathrebu,
        creadigrwydd ac ymdeimlad o gysylltiad dysgwyr â'u cymunedau lleol.


        6.2 YSGOL CRUG GLAS, YSGOL PENYRHEOL STF AC
        AWEL AMAN TAWE



       Crëwyd prosiect celf yn seiliedig ar yr amgylchedd gan Ysgol Crug Glas, Ysgol Penyrheol
       STF  ac  Awel  Aman  Tawe.  Rhoddodd  Awel  Aman  Tawe  gefnogaeth  ariannol  i  artistiaid
       proffesiynol weithio gyda dysgwyr o Ysgol Crug Glas ac Ysgol Penyrheol, gan arwain at
       arddangosfa  gelf  ryngweithiol  yn  y  Volcano  Theatre  yn  Abertawe.  Er  bod  ganddynt
       anableddau dysgu dwys a lluosog, roedd dysgwyr yn Ysgol Crug Glas yn gallu cymryd
       rhan mewn gweithgareddau creu celf trwy ymgysylltu synhwyraidd ag eitemau fel glo,
       tywod a goleuadau.

       Roedd dysgwyr mwy abl o Ysgol Penyrheol yn gallu ymgysylltu ymhellach ag artistiaid
       proffesiynol  i  ddatblygu  cynfasau  mawr  sy'n  darlunio  dealltwriaeth  dysgwyr  o  ynni
       adnewyddadwy.  Crëwyd  cân  sy'n  cyfuno  lleisiau  dysgwyr  o  Ysgol  Crug  Glas  ac  Ysgol
       Penyrheol hefyd ar gyfer yr arddangosfa gyda chefnogaeth artist proffesiynol.










































                                                                                                                18
   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23