Page 17 - Welsh CCSE in ALN and AP Settings Report
P. 17
6. ASTUDIAETHAU ACHOS
Mae pocedi o weithgareddau ANHaCh yn bodoli ar draws
lleoliadau ADY yng Nghymru, fel y dangosir gan yr
astudiaethau achos drwy gydol yr adroddiad hwn. Yn yr
astudiaethau achos, mae ffactorau penodol wedi cyfrannu
at allu athrawon i redeg gweithgareddau o'r fath.
6.1 PROSIECT ARLOESI
Mae'r Prosiect Arloesi yn rhan o Wasanaeth Ieuenctid
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ac mae'n dilyn
Cwricwlwm y Gwasanaeth Ieuenctid. Er nad ydynt yn
dilyn y Cwricwlwm i Gymru, mae'r mathau o
weithgareddau a gyflwynir drwy'r prosiect yn briodol i'w
hoedran, wedi'u gwreiddio mewn perthnasedd yn y byd
go iawn, a gellir eu hymgorffori'n hawdd mewn ysgolion
ac unedau sy'n dilyn y Cwricwlwm i Gymru.
Er enghraifft, gofynnodd un person ifanc am wersi gwnïo
ac uwchgylchu, gan fynegi brwdfrydedd i ddysgu sgil a
ddysgwyd gan aelodau o’r teulu a thynnu sylw at
bwysigrwydd ailddefnyddio ac ailweithio dillad.
Yn y cyfnod cyn y Nadolig, roedd dysgwyr
yn uwchgylchu poteli gwin i eitemau
addurniadol a oedd wedyn yn cael eu
gwerthu. Gan ddefnyddio dodrefn a
roddwyd gan y gymuned leol, dysgwyd
dysgwyr i uwchgylchu eitemau fel bwrdd
gwisgo hefyd.
Gwnaethant archwilio manteision
amgylcheddol ailddefnyddio ac
ailbwrpasu, yna gwerthon nhw eu darnau
gorffenedig er mwyn codi arian i
brosiectau cymunedol eraill.
Mae'n bwysig nodi bod dysgwyr yn y
Prosiect Arloesi wedi'u lleoli mewn
darpariaeth Addysg Heblaw Yn yr Ysgol
dan arweiniad ieuenctid, nid ysgol
arbennig.
Gall y dysgwyr hyn, felly, fod yn fwy galluog
yn feddyliol ac yn gorfforol na dysgwyr
eraill a gynrychiolir yn yr adroddiad hwn.
17

