Page 15 - Welsh CCSE in ALN and AP Settings Report
P. 15

"Roedden nhw’n gwneud gweithgareddau gyda phwmpenni, roedden
                   nhw'n eu cerfio, eu defnyddio ar gyfer addurno, ac yna roedden nhw'n
                      gwneud cawl allan ohonynt, yna’n eu compostio yn y biniau y tu
                        allan. Roedden nhw hefyd yn rhostio’r hadau, roedden nhw'n
                   defnyddio croen y winwns a gafodd eu defnyddio i wneud  cawl i liwio
                  dillad a phethau eraill. Felly, mae'n nodwedd bwysig mewn gwirionedd,
                   trwy'r sylfaen, byddwn i'n dweud, ond yng nghyfnod allweddol pedwar
                   oherwydd ei fod yn cael ei gydnabod gan y cymhwyster maen nhw'n
                  ei gyflawni, mae'n amlwg bod yn rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n ei
                   wneud yn aml wedyn... Ac oherwydd ei fod yn canolbwyntio’n drwm
                    ar y sgiliau bywyd hynny, y sgiliau bywyd ymarferol  ac oherwydd

                              bod gennym ardd mor dda hefyd... Rydyn ni wedi
                              gallu ei wneud yn rhan sylfaenol o'u cwricwlwm."




      Mae athrawon yn cysylltu coginio ag ANHaCh trwy sicrhau bod pob elfen o'r ffrwythau neu'r
      llysiau  sy’n  cael  ei  thyfu  yn  cael  ei  defnyddio,  gan  addysgu  am  effeithiau  niweidiol
      gwastraff bwyd. Mae addysgu dysgwyr ar filltiroedd bwyd yn ystod gwersi coginio hefyd
      wedi bod yn offeryn defnyddiol i ddysgwyr sy'n deall y cysyniadau hyn.







                            “Mae ein plant wrth eu boddau’n coginio. Maen nhw yn
                           eu helfen ac rydyn ni'n gwneud hynny yn y dosbarth ond
                              mae hyn yn mynd i fod yn wahanol oherwydd ei fod
                             seiliedig yn fwy ar gynhwysion naturiol sydd wedi'u
                          tyfu'n bwrpasol a bwyta'n iach. Nid yw llawer o'n plant yn
                              hoffi bwyta'n iach oherwydd anghenion dietegol ac
                            oherwydd bod ganddynt anghenion synhwyraidd. Felly
                              bydd yn ffordd eithaf braf, dwi'n meddwl, unwaith y
                           byddwn wedi ei sefydlu'n iawn i'w hannog i roi cynnig ar
                            bethau newydd ac mae elfen synhwyraidd iddo hefyd."






      Mentrau  Ailgylchu  a  Chynaliadwyedd:  Mae  rhai  lleoliadau  ADY  yn  defnyddio
      cystadlaethau  fel  ffordd  o  hyrwyddo  cynaliadwyedd  ledled  yr  ysgol.  Er  enghraifft,  mae
      posteri  am  barthau  di-sbwriel,  ailgylchu  a  gofalu  am  yr  amgylchedd  wedi  cael  eu  creu
      gan  ddosbarthiadau  a'u  pleidleisio  arnynt.  Mae’r  posteri’n  cael  eu  defnyddio  ar  gyfer
      arddangosfeydd ledled yr ysgol neu ar ddrysau eu dosbarthiadau. Trwy roi ymdeimlad o
      annibyniaeth  a  chyfrifoldeb  i'r  dysgwyr  wneud  posteri,  maent  yn  fwy  tebygol  o  ddilyn  y
      camau maen nhw'n eu hyrwyddo a’u trafod gyda'u cyfoedion.



                                                           15
   10   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20