Page 19 - Welsh CCSE in ALN and AP Settings Report
P. 19
6.3 CADWCH GYMRU’N DACLUS
Mae'r astudiaeth achos hon yn seiliedig ar e-bost gan athro i Swyddog Addysg Eco-
Sgolion ar ôl diwrnod o blannu coed gyda’r ysgol. Roedd yr athro wedi mynegi pryder ar y
dechrau mai efallai na fyddai un o’r dysgwyr ADY yn gallu ymwneud â'r gweithgaredd, o
ystyried ei anawsterau mewn dosbarth prif ffrwd. Fodd bynnag, yn ystod y sesiwn awyr
agored, daeth potensial, brwdfrydedd a gallu’r dysgwr i weithio fel rhan o dîm yn amlwg
wrth blannu'r berllan.
Mae'r enghraifft hon yn tynnu sylw at yr effaith bwerus y gall addysg awyr agored ei chael
ar bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Enillodd y dysgwr brofiad gwerthfawr
mewn lleoliad a oedd yn hollol newydd iddo, gan ddatgloi cyfleoedd o fewn yr ysgol a
chyflogaeth yn y dyfodol nad oeddent efallai wedi cael eu hystyried o'r blaen - naill ai
ganddo'i hun na'i athrawon - oherwydd heriau yn yr ystafell ddosbarth gyda phrosesu a
hyder.
“Mae James yn fyfyriwr sy’n cael heriau enfawr gydag addysg brif ffrwd. Mae'n ddyn ifanc
perffaith, cwrtais ond mae ganddo anawsterau sylweddol o ran darllen, ysgrifennu,
prosesu gwybodaeth a'i chadw. Yn wir, mae ei anghenion yn gymaint fel na all gofio ei
oedran. Er gwaethaf hyn, mae’n cario ymlaen, byth yn cwyno. Roedd y prosiect plannu
perllan hwn yn gyfle perffaith iddo wneud rhywbeth ystyrlon y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth.
Cyfle iddo ragori mewn rhywbeth a theimlo'n dda amdano'i hun. Ychydig oeddwn i'n
gwybod pa mor drawsnewidiol fyddai'r prosiect hwn i James ac yn wir i mi, fel ALENCO
ysgol... Roedd yn wirioneddol hudolus ei weld yn y gwaith, yn dangos hyder newydd,
bachgen a oedd fel arfer yn cerdded yn grwn , bellach yn sefyll yn uchel gyda balchder a
hunan-gred. Dyma fyfyriwr nad oedd yn gallu cofio ei oedran ond oedd yn gallu cofio'n
ddi-dor y gwahanol gamau o blannu coeden. Gwnaeth i mi sylweddoli pa mor hanfodol
yw prosiectau fel hyn; sut maen nhw'n helpu i ddatgloi potensial a gwahanol ffyrdd o
weithio i fyfyrwyr sy'n cael trafferth o fewn ffiniau traddodiadol ystafelloedd dosbarth.
Roedd y prosiect hwn yn ymwneud â thyfu perllan a allai ffynnu yn y amodau cywir, ond
mewn gwirionedd, gwnaeth yr un peth i'r dyn ifanc hyfryd hwn."
Gall gweithgareddau ANHaCh sylweddol ddigwydd mewn lleoliadau ADY ond fel arfer maent
yn cael eu hwyluso a'u hariannu'n allanol, neu eu cynnal gyda dysgwyr mwy abl mewn
darpariaeth amgen. Mae'r astudiaeth achos o'r prosiect Arloesi yn enghraifft o weithgareddau
a gynhelir gan ddysgwyr yn lleoliadau addysg heblaw yn yr ysgol . Mae'r cydweithrediad
rhwng Ysgol Crug Glas ac Ysgol Penyrheol STF yn enghraifft o weithgaredd wedi'i hwyluso wrth
i Awel Aman Tawe ddarparu cefnogaeth i ariannu a chydweithio drwy eu swyddog addysg. Yn
olaf, mae Cadwch Gymru'n Daclus yn cefnogi gweithgareddau ANHaCh mewn lleoliadau prif
ffrwd ac ADY ledled Cymru a gall eu haddysg awyr agored, gan gynnwys plannu bylbiau a
choed, gael effeithiau trawsnewidiol nid yn unig ar dir yr ysgolion, ond hefyd ar alluoedd
dysgwyr sy'n ymwneud â'r gweithgareddau.
19

