Page 13 - Welsh CCSE in ALN and AP Settings Report
P. 13
Bu ehangu mewn gwaith clwstwr mewn perthynas â darpariaeth ADY yn bennaf mewn
ysgolion prif ffrwd ar draws rhanbarthau Cymru (Conn et al., 2024). Mae cydweithio
rhwng Cydlynwyr ADY wedi cefnogi cydweithredu ynghylch gweithredu diwygiadau ADY
ac wedi creu gofod i gydlynwyr ADY sicrhau bod ymarfer yn cael ei alinio ym mhob
rhanbarth. Mae hyn, felly, yn darparu model ar gyfer cyfnewid gwybodaeth yn y dyfodol;
gall fod mantais debyg i athrawon ADY o leoliadau ADY sy'n rhannu arferion mewn
perthynas ag ANHaCh mewn lleoliadau ADY. Fodd bynnag, byddai angen cefnogaeth
cychwynnol i sefydlu hyn.
Yn ogystal, gellid defnyddio Hwb fel platfform ar gyfer rhannu adnoddau ANHaCh ADY-
benodol, fodd bynnag, nid oes gan HWB y rhwydweithiau rhyngweithio sy'n ofynnol ar
gyfer cefnogaeth cymheiriaid a chreu rhwydwaith hunangynhaliol. Yn lle hynny, mae
Microsoft Teams yn darparu platfform posibl ar gyfer rhwydweithio i bawb.
Awgrymodd rhai o'r athrawon a
gyfwelwyd ar gyfer yr adroddiad hwn
"Byddai'n braf iawn gweld sut rwydwaith Teams ar-lein sy'n benodol
mae ysgolion eraill yn ei wneud i ANCaCh mewn lleoliadau ADY.
[addysgu ANHaCh] mewn Byddai'r rhwydwaith hwn yn hawdd ei
gwirionedd, ac yna gallwch ddewis gyrraedd gan fod gan bob athro
a dewis y darnau rydych chi'n eu fynediad at Teams trwy eu gwaith.
hoffi mewn gwirionedd” Byddai hefyd yn darparu storfa ar
gyfer adnoddau a'r cyfle i gael
deialog trwy'r swyddogaeth sgwrsio.
Fodd bynnag, mae athrawon hefyd eisiau cyfle i gwrdd wyneb yn wyneb er mwyn
adeiladu cysylltiadau parhaol â'i gilydd, y gellid eu hwyluso trwy gyfleoedd hyfforddi
addysgu (gweler Adran 3 "Hyfforddiant Staff Annigonol").
4.1 ARGYMHELLION AR GYFER RHWYDWAITH
ARBENIGOL
Sefydlu clwstwr/rhwydwaith ANHaCh pwrpasol ar gyfer lleoliadau ADY: er mwyn
alluogi cyfnewid barhaus o syniadau, adnoddau ac argymhellion ar gyfer teithiau
addysgol sy'n gyfeillgar i ADY ar draws rhanbarthau. Dylid rhoi cefnogaeth iddo fod yn
hunangynhaliol.
Cynnal cyfarfodydd rheolaidd, hygyrch- cyfuno sgyrsiau â sesiynau ar-lein wedi’u
hamserlenni a sicrhau bod pob oedran a chyfnod dilyniant yn cael eu cynrychioli fel y
gall athrawon a chynorthwywyr addysgu rannu arfer gorau, darparu cymorth gan
gymheiriaid a gweithgareddau ANHaCh sydd wedi'u halinio'n rhanbarthol.
Mae athrawon mewn lleoliadau ADY yn cael eu hysgogi i greu rhwydwaith
hunangynhaliol, cyfoedion-i-gyfoedion i rannu adnoddau ac arferion addysgu o
amgylch ANHaCh. Ar hyn o bryd mae Eco-Sgolion yn hwyluso cyfarfod blynyddol ond
nid yw hyn yn cael ei fynychu'n dda ac nid yw cyfarfodydd amlach yn bosibl oherwydd
heriau ar ran capasiti gyda'r cyllid presennol. Rydym yn argymell bod athrawon yn cael
eu cefnogi i greu rhwydwaith sy'n cyfuno sgyrsiau â sesiynau ar-lein rheolaidd, wedi’u
hamserlenni a bod athrawon o bob lefel dysgwr o lwybrau i ddysgu i gam dilyniant yn
cael eu cynrychioli.
13

