Page 9 - Welsh CCSE in ALN and AP Settings Report
P. 9

Cymhwysedd i Ddysgwyr: Er mwyn i
                                                                      ddysgwyr        ADY       ymgysylltu       â
                     "I'n dysgwyr, mae'n rhaid i ni                   deunyddiau, rhaid i'r cynnwys fod yn
                        ddod ag ef yn fyw. Felly,                     berthnasol iddynt ac yn seiliedig ar y
                     mae'n rhaid i ni ei wneud yn                     byd  o'u  cwmpas.  Yn  ogystal,  mae
                      beth byw, go iawn er mwyn                       angen i weithgareddau  adeiladu ar
                     iddyn nhw dderbyn y syniad                       ddysgu  a  chynlluniau  blaenorol.  Er
                          mewn gwirionedd”.                           enghraifft,  os  nad  yw  myfyriwr  wedi

                                                                      dysgu am amser eto, ni fydd yn deall
                                                                      y cysyniad o'r byd yn newid dros
        amser, neu plastig yn cymryd amser i ddiraddio. Fodd bynnag, pan fydd dychymyg a
        synnwyr o gyfiawnder dysgwyr yn cael eu sbarduno gan yr hyn maen nhw'n ei ddysgu,
        gallant fod yn rym pwerus ar gyfer newid.

        Labelu: Ni ddylai'r adnoddau naill ai (i) gael eu labelu â cham dilyniant neu oedran y
        plentyn y cafodd ei gynllunio ar ei gyfer, neu (ii) dylai fod labeli ar adnoddau sy’n hawdd
        eu tynnu. Mae'r argymhelliad hwn yn cyd-fynd â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru ar
        gyfer adnoddau, ond bydd yn cymryd amser i’r canllawiau hyn cael eu gweithredu gan
        bob darparwr.
        Oedran a Cham priodol: Rhaid i adnoddau
        fod yn briodol ar gyfer oedran y dysgwyr.
        Felly, mae angen creu ystod o                                 "Po fwyaf o adnoddau sydd ar

        adnoddau ar gyfer pob cam dilyniant a                          gael, y gorau, dwi'n dweud.
        chyn dilyniant, gyda chynnwys yn addas                     Oherwydd er bod y [gweithgaredd
        ar gyfer ystod eang o oedrannau. Mae                        maen nhw wedi'i wneud eleni] yn
        angen i ddelweddau a chynnwys fod yn                       cyd-fynd â'u hanghenion, mae pob
        briodol i'r oedran hefyd, e.e. dim                                  carfan yn wahanol."
        delweddau/pynciau oedran cynradd
        mewn adnoddau sydd wedi'u hanelu at
        ddysgwyr oedran uwchradd.

        Dysgu  drwy  brofiad  ar  deithiau  ysgol:  Cynnwys  rhestr  o  deithiau  sy'n  gyfeillgar  i  ADY
        ledled Cymru er mwyn hwyluso mynediad at gyfleoedd dysgu profiadol.
        Mae'r argymhellion hyn yn mynd i'r afael â'r bwlch presennol mewn adnoddau ANHaCh

        priodol ar gyfer lleoliadau ADY ac yn cefnogi athrawon drwy leihau amser paratoi, atal
        athrawon rhag llosgi allan, ac yn cynyddu ymgysylltiad cyffredinol dysgwyr â llwyddiant
        wrth  addysgu’r  Cwricwlwm  i  Gymru.  Bydd  yr  argymhellion  hyn  yn  symleiddio'r  broses
        gynllunio ac yn lleihau'r baich gweinyddol.

          Rydym yn argymell bod arbenigwyr pwnc yn creu banc o adnoddau ar gyfer
                    athrawon mewn lleoliadau ADY. Dylai'r adnoddau hyn fod yn

            rhyngddisgyblaethol, yn gyffyrddadwy, yn synhwyraidd, yn berthnasol i
        brofiadau byw y dysgwyr ac yn briodol i'r oedran a'r cyfnod y mae'r dysgwyr yn
        gweithio ynddo. Byddai creu'r banc adnoddau hwn yn golygu y gellir defnyddio

          arbenigedd ac amser cyfyngedig athrawon i addasu adnoddau i anghenion
                                              penodol eu dysgwyr.

                                                            9
   4   5   6   7   8   9   10   11   12   13   14